
Rhagfyr 1996
Ail-Argraffiad Ionawr 2000
269pp
£9.99
pb
ISBN: 978-1-899869-01-5
|
dyddiadur anne frank
ADDASIAD
CYMRAEG GAN EIGRA LEWIS ROBERTS
Gwerth
y llyfr yw ei naws amrwd a byrfyfyr a'r teimlad a rydd inni o
ddarllen am bethau sy'n digwydd ar y pryd...mae'r testun yn
darllen yn naturiol ac yn heini fel petai'r Gymraeg yn famiaith
i Anne Frank
Mihangel Morgan, Taliesin
Mae'n gyfieithad
rhagorol...hynodrwydd y dyddiadur yw ei fod wedi ei ysgrifennu
gan ferch bedair ar ddeg oed...dim ond ychwanegu at ei werth a
wna'r fersiwn estynedig yma...mae'n ychwanegiad pwysig i'r
deunydd sydd ar gael yn y frwydr barhaus yn erbyn Ffasgaeth
Angharad Tomos, Llais Llyfrau
Addasiad graenus...rydw i'n teimlo fy mod wedi dod I adnabod
Anne Frank yn well
R.O. Williams, Golwg
Gyda'r addasiad celfydd hwn...gallwn synhwyro o'r newydd wedd ar
bersonoliaeth Anne a gadwyd o dan gaead hyd yma...y gwir amdani
yw bod holl ddyddiadura Anne yn galeidoscop o ddaioni a
drygioni y natur ddynol ac yn rhoi inni ddrych o gyfnod ac o
gymeriadau y gallwn i gyd eu hadnabod
Menna
Elfyn, Barn
Mae'r fersiwn Gymraeg gan Wasg Addysgol Cymru hefyd yn fersiwn
ddiweddaraf o'r dyddiadur a gyhoeddwyd ar draws y byd ym 1996.
Mae'r fersiwn newydd, cyflawn hwn o'i dyddiadur yn cynnwys
toreth o ddeunydd na chynhwyswyd mohono erioed o'r blaen. Trwy
dudalennau'r gyfrol hon, down i adnabod yr Anne Frank go iawn, a
rhannu'r gobeithion a'r ofnau, y profiadau a'r emosiynau, a
gofnodwyd ganddi yn ystod y ddwy flynedd y bu hi a'i theulu'n
cuddio rhag y Natsiaid yn Amsterdam. Dyma glasur o lyfr, yng
ngwir ystyr y gair.
|